Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Ionawr 2020
Amser:
12.50 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5634
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (yn lle Nick Ramsay AC) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru Syr David Henshaw, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru David Rees Julie Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Lowri Barrance (Dirprwy Glerc) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo.
1.2 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.4 Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Cyfoeth Naturiol Cymru yn fanwl ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor (Tachwedd 2018) ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch nifer o faterion sy’n codi.
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch yr Adroddiad trawsbynciol hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am ragor o wybodaeth.